NEWYDDION
Teyrnged i un o'n sefydlwyr ni
Danusia Trotman-Dickenson (1929 - 2024)
Ym Mehefin 1940 cafodd merch unarddeg mlwydd oed ei hachub, gyda’i mam, o gwch pysgota bach ger arfordir Ffrainc. Llong lo o Gymru ddaeth i’w helpu.Roedd y ddwy yn ffoi rhag y Natsiaid, ac ar ffo ers Medi 1939, pan ddaeth tanciau’r Almaen i ddistrywio eu cartref yn Warsaw. Buont yn crwydro wedyn ar draws Ewrop, gan chwilio am ddiogelwch yn Romania, Iwgoslafia ar Eidal, dim ond i orffen ym Mharis wrth i’r Almaenwyr gyrraedd y ddinas honno.
Ar Orffennaf 5ed, 2024, claddwyd y Fonesig yr Athro Emerita Danusia Trotman-Dickenson MBE. Trwy gyd-ddigwyddiad, ar y diwrnod hwnnw yn y Llyfrgell Genedlaethol, cynhaliwyd seremoni wobrwyo Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig. Roedd y Fonesig yn un o sylfaenwyr y Fenter honno a hi hefyd oedd y plentyn o ffoadur yn y cwch pysgota dros 80 o flynyddoedd ynghynt.
Dyma ychydig o hanes ei bywyd. Wedi i’r llong lo gyrraedd Plymouth, aethpwyd â’r ffoaduriaid i farics Fulham yn Llundain, ac oddi yno cawsant eu hail-leoli i wersyll yn Peebles cyn cael cartref yn Linlithgow yn yr Alban. Yno ail-afaelodd Danusia a’i mam mewn bywyd normal a dychwelodd Danusia at addysg ffurfiol. Aeth ymlaen i Brifysgol Caeredin i ddilyn cwrs gradd mewn astudiaethau busnes. Roedd bywyd yn galed iawn ar ddiwedd y rhyfel, a bu rhaid i’w mam addasu ei gwisg ysgol iddi ei gwisgo i’w darlithiau yn y brifysgol.
Oddi yno aeth i wneud cwrs meistr mewn economeg yn y London School of Economics. Ar sail hwnnw cafodd swydd fel tiwtor ym mhrifysgol Manceinion, cyn dychwelyd fel darlithydd i brifysgol Caeredin, lle enillodd ei doethuriaeth yn 1956.
Cwrddodd Danusia â’i gŵr, Aubrey Trotman-Dickenson (yr Athro Syr Aubrey yn ddiweddarach), pan oedd y ddau yn gweithio ym Manceinion. Ar ôl priodi, treulion nhw gyfnod byr yn yr Unol Daleithiau, cyn symud i Aberystwyth, pan benodwyd Syr Aubrey yn bennaeth yr Adran Gemeg yno. O hynny ymlaen Cymru oedd eu cartref, a gorffennodd Danusia ei gyrfa academaidd fel Athro ym mhrifysgol Morgannwg, Pontypridd.
Ar ddiwedd y 1980au, pan oedd Danusia ar fin ymddeol, roedd llawer o drafodaeth am addysg, wrth i lywodraeth Mrs Thatcher ddatblygu’r syniad o greu Cwricwlwm Cenedlaethol, rhywbeth oedd yn gyfan gwbl newydd i ysgolion Prydain ar y pryd. Y bwriad gwreiddiol oedd cael yr union un cwricwlwm yng Nghymru ac yn Lloegr. Ond yn fuan iawn ddaeth yn amlwg na fyddai hynny’n addas, yn enwedig mewn pwnc fel hanes. Bu ymgyrchu brwd gan Gymdeithas Athrawon Hanes Cymru dros sefydlu rhaglen astudio hanes ei hun i Gymru, un a fyddai’n rhoi lle canolog yn ysgolion y wlad i’r persbectif Cymreig ar hanes. Pan enillodd y Gymdeithas Athrawon Hanes y dydd, agorwyd y drws i bynciau eraill hefyd ddadlau dros yr angen am raglen astudio Cymreig. Dyma oedd y cam cyntaf tuag at greu’r Cwricwlwm Cenedlaethol sydd gennym yng Nghymru heddiw.
Serch hynny, roedd dysgu am hanes Cymru a’r cynefin yn rhywbeth newydd i lawer o athrawon yn y dyddiau hynny. Penderfynodd Pwyllgor Treftadaeth y Sefydliad dros Faterion Cymreig y byddai cystadleuaeth i ysgolion yn hybu dysgu hanes a threftadaeth Cymru. Cadeirydd y Pwyllgor Treftadaeth hwnnw oedd y Fonesig Trotman-Dickenson, a hi, gyda’i chysylltiadau ym myd busnes yng Nghymru, sicrhaodd noddwyr hael fyddai’n cynnig gwobrau teilwng i’r cystadleuwyr buddugol.
Yn 1990 lansiwyd Menter Dreftadaeth yr Ysgolion Cymreig dan nawdd y Sefydliad Materion Cymreig yn yr Amgueddfa Genedlaethol. O hynny ymlaen, trwy gydol ei bywyd hir, roedd arweiniad Danusia, ei hegni a’i gallu, yn gefn i’r gystadleuaeth ac yn ganolog i’w llwyddiant. Hi oedd Cadeirydd cyntaf y Fenter, ac wedi iddi ymddeol, ddaeth yn Llywydd Oes arni. Nod y gystadleuaeth o’r cychwyn oedd dathlu’r gwaith da a wneir yn ein hysgolion ym maes treftadaeth a hanes, annog pobl ifanc i ymddiddori mwy yn eu cynefin a’u treftadaeth a chyfraniad eu teuluoedd a’u cymunedau i’r dreftadaeth honno. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob ysgol yng Nghymru, ac i ddisgyblion o bob oedran a gallu. Mae parhad y gystadleuaeth yn tystio i waith menyw arbennig iawn, ac mae ei llwyddiant yn fater o falchder i Gymru gyfan.
Yn Aberystwyth ar Orffennaf 5ed eleni gafodd 74 o ysgolion yng Nghymru eu gwobrwyo am eu gwaith mewn hanes a threftadaeth. O ganlyniad bydd dros 10,000 o ddisgyblion Cymru yn elwa ar waith a gweledigaeth y Fonesig yr Athro Emerita Danusia Trotman-Dickenson - a fu unwaith yn blentyn o ffoadur mewn cwch pysgota o Ffrainc.
Nodyn: Fe gewch fanylion am ei phrofiadau fel ffoadur yn yr erthygl a gyfrannodd i Parachutes and Petticoats: Welsh women writng on the Second World War (Honno, 1992).
Gwobrau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2024
LLONGYFARCHIADAU I HOLL ENILLWYR 2024
Miloedd o Ddisgyblion Ysgol yn Archwilio Treftadaeth Cymru trwy Gystadleuaeth
Cymerodd dros naw mil o ddisgyblion o bob rhan o Gymru ran yng nghystadleuaeth Menter Ysgolion o Dreftadaeth Cymru (MYDG) eleni. Roedd y beirniaid wrth eu bodd yn cyfarfod â dysgwyr mor frwdfrydig a oedd yn awyddus i archwilio a darganfod mwy am eu treftadaeth leol a chenedlaethol.
Derbyniodd yr enillwyr eu gwobrau ddydd Gwener, Gorffennaf 5, mewn seremoni a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, gan rannu cronfeydd gwobr o gyfanswm o £35,000. Mynegodd y WHSI ddiolchgarwch i’r holl gyfranogwyr a llongyfarchodd ddisgyblion ac athrawon am eu cyflawniadau rhagorol.
Dyfarnwyd £800 yr un i enillwyr y categorïau a derbyniodd darianau a gyflwynwyd gan Amgueddfa Cymru. Am yr ail flwyddyn yn olynol, enillodd Ysgol Gynradd Gymunedol Maerdy, Rhondda Cynon Taf, y categori Cyfnod Sylfaen am eu prosiect ysbrydoledig, "Somewhere Only We Know," a ganolbwyntiodd ar godi ymwybyddiaeth o hanes yr ardal.
Yn y categori cynradd, roedd y safon yn arbennig o uchel, gan arwain at ddau enillydd tarian. Cafodd Ysgol Gynradd Darren Park, Rhondda Cynon Taf, ei chydnabod am eu prosiect arloesol, "The Working World – From the Past to the Present to Future Aspirations," a archwiliodd hanes ac ymgysylltu disgyblion mewn trafodaethau am eu dyfodol. Enillodd yr ysgol hefyd Wobr Rhagoriaeth Ddigidol Casgliad y Bobl Cymru. Roedd Ysgol Froncysyllte, Wrecsam, yn enillydd tarian ysgol gynradd arall am eu prosiect rhagorol, "The Tailor’s Journey," a oedd yn cynnwys gwaith ymchwil rhagorol ac a enillodd y tlws Cadw iddynt.
Enillodd Ysgol Maes y Coed, Castell-nedd Port Talbot, darian Addysg Arbennig 2024 am eu prosiect cynhwysol a gynhyrchodd waith celf a gweithgareddau amlsynhwyraidd gwych. Roedd enillwyr tarian categori Ysgol Uwchradd 2024 yn Ysgol Gowerton, Abertawe, am eu prosiect ymchwil manwl am eu hardal leol, "History of our Local Area."
Enillodd Ysgol Gowerton, Abertawe, darian categori Ysgol Uwchradd 2024 am eu prosiect ymchwil manwl am eu hardal leol, ‘History of our Local Area,’ dan arweiniad y Criw Cymreig.
Derbyniodd tri disgybl chweched dosbarth o Ysgol Bro Myrddin, Sir Gaerfyrddin, y brif wobr WHSI EUSTORY am eu gwaith yn ymchwilio i hanes Cymru yn y 19eg ganrif. Bydd ganddynt y cyfle i gynrychioli Cymru mewn rhwydwaith i haneswyr ifanc sydd i ddod yn Riga, Latfia.
Dywedodd Cadeirydd y WHSI, Dr. Huw Griffiths: “Eleni, gwelsom nifer sylweddol o ysgolion yn cystadlu, gyda chynnydd mewn cyfranogiad o ysgolion uwchradd. Datblygiad cadarnhaol arall yw’r cynnydd cyffredinol yn safon y cyflwyniadau, gan ei gwneud yn arbennig o anodd i’r beirniaid ddewis enillydd, fel y dangosir gan nifer yr ysgolion yn y categori uchaf. Mae hyn yn argoeli’n dda ar gyfer meithrin dealltwriaeth ddyfnach o dreftadaeth Cymru ymhlith dysgwyr. Yn bersonol, rwy’n arbennig o falch o weld ysgolion yn datblygu prosiectau ar hanes menywod Cymru a hanes pobl Dduon, Asiaidd, ac ethnig lleiafrifol. Mae’r elfennau hyn yn rhan annatod o’n stori gyfunol, a gobeithiaf y bydd dysgwyr yng Nghymru yn y dyfodol yn gadael yr ysgol gyda gwybodaeth gyfoethocach o hanes Cymru.”
Ar gyfer y rhestr o’r holl enillwyr, ynghyd â’r beirniadaethau, gwler adroddiad cryno enillwyr 2024. Cyhoeddir manylion cystadleuaeth 2025 yn yr hydref.
Ymweliad â Thy'r Arglwyddi
Ysgol Sant Martin, Caerffili yn ymweld â Thŷ'r Arglwyddi - Gwobr yr Arglwydd Brooke 2023. Cyfarfu'r Arglwydd Brooke o Alverthorpe, oedd wedi noddi’r wobr, â'r myfyrwyr.
Gwobrau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2023
LLONGYFARCHIADAU I HOLL ENILLWYR 2023
Moondance 2023 WHSI
Slate Museum
MC actor WHSI 2023
Moondance 2023 WHSI
Record yn nifer yr ysgolion Cymreig sydd wedi ennill gwobrau am eu prosiectau treftadaeth
Bu dros chwe mil o ddisgyblion ledled Cymru yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig eleni. Roedd y beirniaid wrth eu boddau yn cyfarfod y fath ddysgwyr brwdfrydig a oedd wedi bod yn brysur yn archwilio ac yn darganfod mwy am gyfoeth ac amrywiaeth eu treftadaeth leol a chenedlaethol.
Mae chwedeg-saith o ysgolion wedi ennill un o wobrau llawn bri'r Fenter am eu hymchwil creadigol ac amrywiol, gan rannu gwerth dros £32,000 o wobrau. Cyflwynwyd y rhan fwyaf o’r enillwyr â’u gwobrau ar ddydd Iau 6 Gorffennaf mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, tra derbyniodd eraill eu gwobrau wythnos yn ddiweddarach yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Diolchodd MYDG i bawb a oedd wedi ymgeisio a llongyfarchwyd disgyblion ac athrawon ar eu llwyddiannau rhyfeddol.
Enillodd enillwyr y categorïau £800 yr un a thariannau a gyflwynwyd gan Amgueddfa Cymru.
Enillwyr y categori Cyfnod Sylfaen eleni oedd Ysgol Gynradd Gymunedol Maerdy, Rhondda Cynon Taf, am eu prosiect ysbrydoledig ‘Gwnaed a Mowldiwyd ym Maerdy’, a oedd yn canolbwyntio ar hanes a chymeriadau enwog yr ardal. Yn yr un categori enillodd Ysgol Babanod Gwirfoddol Llanelwy, sir Ddinbych, dlws cyntaf Cadw am eu prosiect uchelgeisiol ‘Ein Cynefin’.
Roedd ceisiadau gorau y categori cynradd ysgol-gyfan o safon eithriadol o uchel, a dyfarnwyd y darian i Ysgol Gynradd Baglan, Castell-nedd Port Talbot, am eu hymchwil yn seiliedig ar eu cymuned ‘O’r Caribî i Gymru’, yn cysylltu eu hanes lleol â Chenhedlaeth Windrush.
Am eu prosiect rhagorol am eu hardal leol, a oedd yn cynnwys gwaith ymchwil ardderchog, enillodd Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw, Abertawe, darian ysgolion cynradd hefyd.
Enillodd Ysgol St. Christopher, Wrecsam, darian Addysg Arbennig a Darpariaeth Ychwanegol 2023 am eu prosiect ysgol-gyfan yn canolbwyntio ar ddylanwad Clwb Pêl-droed Wrecsam ar y dref ac ar gymuned yr ysgol.
Ysgol Bro Dinefwr, sir Gaerfyrddin, oedd enillwyr tarian yr Ysgolion Uwchradd 2023, am eu prosiect treiddgar am eu hardal leol, ‘Ein Cynefin’.
Am ei gwaith yn ymchwilio effeithiau mudo ar nifer y siaradwyr Cymraeg, cyflwynwyd prif wobr EUSTORY i Mirain Francis o Ysgol Gyfun Gŵyr. Enillwyr eraill EUSTORY MYDG 2023 yw Alice Jewell, Ysgol Gyfun Gŵyr; Gabriel Quershi, Ysgol Bro Edern; a Lily Langabeer, Coleg Gŵyr. Bydd yr enillwyr yn gymwys yn awr i ymgeisio i gael mynychu cynhadledd flynyddol EUSTORY Y Genhedlaeth Nesaf gydag Ewropeaid ifainc eraill.
Roedd y gwobrau a gyflwynwyd yn cydnabod gwaith ardderchog a llwyddiannau disgyblion o bob oed, cefndir a gallu. At hyn maent yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd wrth astudio hanes a diwylliant Cymru. Eleni enillwyd Gwobrau Rhagoriaeth Ddigidol, a noddwyd gan Gasgliad y Werin Cymru gan Ysgol Pen-boyr, sir Gaerfyrddin ac Ysgol Gynradd Gymunedol Troedyrhiw, Merthyr Tudful.
Dyfarnwyd Gwobr Gwyn Griffiths, Ymddiriedolaeth Addysgol Peirianwyr de Cymru (SWIEET) am y prosiect gorau ar faterion gwyrdd i Ysgol Gynradd Cross Hands, sir Gaerfyrddin. Noddodd yr Ymddiredolaeth hon Wobr William Menelaus hefyd - am y prosiect gorau am dreftadaeth ddiwydiannol, ac enillwyd hon gan Ysgol Gynradd Ffaldau, Pen-y-bont ar Ogwr, am eu prosiect ‘Diwydiant yng Nghymru, y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol: Pŵer yng Nghymru’.
Ymysg y gwobrau penodol a ddyfanrwyd eleni roedd Gwobr Goffa Richard Price i gofio 300 mlynedd ers ei eni, ac a enillwyd gan Ysgol Gynradd Tynyrheol, Pen-y-bont ar Ogwr, am eu prosiect ‘Y Meddyliwr mwyaf gwreiddiol a aned yng Nghymru? Ymchwil i Dr Richard Price’. Enillwyd y wobr am astudiaeth o fenywod yn hanes Cymru, a noddwyd gan Archif Menywod Cymru, unwaith eto gan Ysgol Bro Edern, Caerdydd.
Meddai Angharad Williams, Cadeirydd MYDG: “Gyda record o safbwynt nifer yr ysgolion yn cystadlu eleni, mae’n amlwg fod gofynion y cwricwlwm newydd yn sicrhau bod ein cystadleuaeth mor berthnasol ac apelgar ag erioed. Mae’n galonogol i weld y fath angerdd a balchder yn ein pobl ifainc wrth iddynt drafod a rhannu canlyniadau eu hymchwil. Fel mewn blynyddoedd cynt rwy’n siŵr y bydd enillwyr gwobrau EUSTORY 2023 a ddewisir i ymuno ag Ewropeaid eraill mewn cynhadledd ym Mhrâg yr Hydref hwn, yn llysgenhadon gwych dros Gymru.
Dylai ein holl enillwyr yn 2023 fod yn haeddiannol falch ac yn sicr maent yn haeddu’r cyfle i’w gwaith rhagorol gael ei gydnabod a’i ddathlu.
I’n galluogi i ddyfarnu gwobrau mor hael, mae MYDG yn ddiolchgar iawn ac yn ddyledus i bob un o’n noddwyr ffyddlon, gan gynnwys Sefydliadau Moondance a Hodge am eu haelioni.”
Ar gyfer y rhestr o’r holl enillwyr, ynghyd â’r beirniadaethau, gwler adroddiad cryno enillwyr 2023. Cyhoeddir manylion cystadleuaeth 2024 yn yr hydref.
ENILLWYR GWOBRAU 2023
Cyflwynir tariannau Amgueddfa Cymru – i’r ymgais orau ym mhob categori.
Y Cyfnod Sylfaen
Ysgol Gynradd Gymunedol Maerdy
Ysgolion Cynradd ac Iau – Prosiectau Ysgol Gyfan
Ysgol Gynradd Baglan
Ysgolion Cynradd ac Iau – Prosiectau Dosbarth a Grwˆp Blwyddyn
Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw
Addysg Arbennig a Darpariaeth Amgen
Ysgol St. Christopher
Ysgolion Uwchradd
Ysgol Bro Dinefwr
EUSTORY
Mirain FrancisYsgol Gyfun Gŵyr
Gwobrau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2022
LLONGYFARCHIADAU I HOLL ENILLWYR 2022
Ysgolion Cymru yn ennill dros £25,000 am eu prosiectau treftadaeth
Eleni mae trideg tair o ysgolion yn dathlu ennill un o wobrau nodedig Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig am eu hymchwil rhagorol, creadigol ac amrywiol. Cyhoeddwyd yr enillwyr ddydd Gwener 8 Gorffennaf 2022 yn 30ain seremoni wobrwyo’r Fenter yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, gyda’r prif enillwyr yn dychwelyd i’w hysgolion gyda gwerth dros £1300 o wobrau'r un a thariannau wedi eu cyflwyno gan Amgueddfa Cymru.
Enillwyr y categori Cyfnod Sylfaen eleni oedd Ysgol Gynradd Cogan, Bro Morgannwg, am brosiect gwreiddiol a diddorol yn astudio gwaith y llysieuydd lleol, Royston Smith.
I ennill y darian am y prosiect ysgol-gyfan gorau, cyfrannodd pob plentyn yn Ysgol Gynradd Rhws at eu trafodaeth ar ‘Pwy ydyn ni fel cenedl?’; tra’r oedd Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn hithau wedi ennill tarian ysgol gynradd am brosiect arloesol, uchelgeisiol: ‘Cymru Pawb: Chwalu Ffiniau’.
Enillydd Gwobr Ysgolion Arbennig a Darpariaeth Amgen 2022 oedd Ysgol Pen-y-bryn, Abertawe, am brosiect crefftus am Gopropolis Abertawe.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, Ysgol Bro Pedr, Ceredigion, sydd wedi ennill categori’r Ysgolion Uwchradd, ynghyd â gwobr am Ragoriaeth Ddigidol, am y prosiect blaengar Balchder Bro, Ein Cynefin.
Cyflwynwyd gwobr MYDG EUSTORY 2022 i Ffion-Jessica Thomas, Ysgol Gyfun Gŵyr am ei gwaith yn ymchwilio effeithiau’r Gymraeg ar ddatblygiad gwybyddol.
Roedd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, yn bresennol ar y diwrnod i gyflwyno rhai o’r gwobrau i’r enillwyr, ac meddai: “Mae’n anhygoel gweld bod 3,000 o blant ledled Cymru wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni. Rwy’n gobeithio bod y profiad yn golygu eu bod yn gwybod mwy am eu treftadaeth ac y bydd yn eu hysbrydoli i fynd ati i ddysgu rhagor. Mae hanes yn bwysig a dylem annog cenedlaethau’r dyfodol i archwilio eu treftadaeth, ei gwerthfawrogi a’i gwarchod, yn ogystal ag ymhyfrydu yn llwyddiannau ysblennydd y gorffennol.”
Yn dilyn blwyddyn heriol arall i ysgolion, diolchodd a llongyfarchodd Angharad Williams, Cadeirydd MYDG y disgyblion a’r athrawon am eu llwyddiannau gwych. Ychwanegodd, “Gwelodd y beirniaid enghreifftiau eithriadol o sut y mae themâu hanesyddol a threftadaeth wedi eu hymgorffori yng ngofynion Cwricwlwm newydd Cymru. Dylai’r enillwyr ymfalchïo yn eu gwaith, ac yn sicr maent yn llawn haeddu cael y cyfle hwn i weld eu gwaith ardderchog yn cael ei gydnabod a’i ddathlu. I’n galluogi i ddyfarnu gwobrau mor hael, mae MYDG yn ddiolchgar iawn ac yn ddyledus i bob un o’n noddwyr ffyddlon, gan gynnwys Sefydliadau Moondance a Hodge am eu haelioni.”
Mae’r gwobrau a gyflwynir yn cydnabod gwaith a llwyddiannau gwych disgyblion o bob oedran, cefndir, a gallu ar draws Cymru. At hyn, maen nhw’n dangos pwysigrwydd datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd trwy astudio hanes a diwylliant Cymru trwy’r Gwobrwyon Rhagoriaeth Ddigidol, a noddir gan Gasgliad y Werin Cymru, ac a gyflwynir yn flynyddol (enillwyd gan Ysgol Gynradd Ty’n y Wern, Caerffili ac Ysgol Bro Pedr Ceredigion yn 2022).
Ymhlith gwobrau penodol eraill mae un am astudiaeth o fenywod yn hanes Cymru, gwobr a noddwyd gan Archif Menywod Cymru (a enillwyd gan Ysgol Bro Edern, Caerdydd, eleni).
Noddwr newydd yn 2022 yw Ymddiriedolaeth Addysgol Peirianwyr De Cymru (SWIEET) a noddodd ddwy wobr: Gwobr Gwyn Griffiths am y prosiect gorau ar faterion gwyrdd (a enillwyd gan Ysgol Gynradd Gelli, Rhondda Cynon Taf, am eu prosiect ar Aur Du) a Gwobr William Menelaus am y prosiect gorau ar dreftadaeth ddiwydiannol (a ddyfarnwyd i Ysgol Gynradd Fochriw, Caerffili am ei hymchwil hanesyddol i Bentref Coll Pen-y-banc).
Ar gyfer y rhestr o’r holl enillwyr, ynghyd â’r beirniadaethau, gwler adroddiad cryno enillwyr 2022. Cyhoeddir manylion cystadleuaeth 2023 yn yr hydref.
ENILLWYR GWOBRAU 2022
Cyflwynir tariannau Amgueddfa Cymru – i’r ymgais orau ym mhob categori.
Y Cyfnod Sylfaen
YSGOL GYNRADD COGAN
Ysgolion Cynradd ac Iau – Prosiectau Ysgol Gyfan
YSGOL GYNRADD RHWS
Ysgolion Cynradd ac Iau – Prosiectau Dosbarth a Grwˆp Blwyddyn
YSGOL GYNRADD GYMRAEG LLWYNCELYN
Addysg Arbennig a Darpariaeth Amgen
YSGOL
PEN Y BRYN
Ysgolion Uwchradd
YSGOL BRO PEDR
EUSTORY
FFION THOMAS
YSGOL GYFUN GŴYR
Mae’n bleser gan MYDG gyhoeddi bod gennym noddwr newydd ar gyfer ein cystadleuaeth flynyddol i ysgolion: Ymddiriedolaeth Addysgol Peirianwyr De Cymru- SWIEET. Yn hael iawn mae SWIEET yn noddi dwy wobr o hyd at £500 yr un.
-
Gwobr William Menelaus am y prosiect gorau sy’n canolbwyntio ar agwedd ar dreftadaeth ddiwydiannol Cymru, neu ar unigolion neu grwpiau hanesyddol sy’n ymwneud â datblygiad diwydiannol Cymru.
-
Gwobr Gwyn Griffiths am y prosiect gorau sy’n canolbwyntio ar ‘faterion gwyrdd’ ac sy’n talu sylw yn arbennig i faterion amgylcheddol a gwelliannau mewn ardal â chefndir diwydiannol
Roedd William Menelaus yn beiriannydd a gynorthwyodd i drawsnewid y diwydiant haearn ym Merthyr Tydfil ac yng Nghwm Taf a’i gymoedd cysylltiol.
Roedd Gwyn Griffiths yn arloeswr ym maes symud tipiau glo yn ne Cymru. swieet2007.org
Gwobrau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2021
DISGYBLION YN SERENNU MEWN CYSTADLEUAETH DDIGIDOL NEWYDD
Roedd Menter Ysgolion Dreftadaeth Gymreig wrth ei bodd o dderbyn geiriau o gefnogaeth gan Michael Sheen pan ymddangosodd yn rhan o’r seremoni wobrwyo rithiol ar ddydd Gwener 2 Gorffennaf.
“Mae’n bleser gen i gefnogi gwaith Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig ac i fod yn rhan o’r seremoni wobrwyo eleni i ddathlu llwyddiannau pobl ifainc yng Nghymru.
Mae’r gystadleuaeth flynyddol a gynhaliwyd gan MYDG am bron i ddeng mlynedd ar hugain yn darparu cyfleoedd i bobl ifainc o bob oedran a gallu ledled Cymru i gymryd mwy o ddiddordeb yn eu treftadaeth / cynefin, a’r cyfraniad a wnaed iddo/iddi gan eu cymunedau hwy eu hunain.
Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan a’r rhai sydd wedi gweithio’n galed i wneud hyn yn bosibl”
(Michael Sheen. Gorffennaf 2021)
Ar ddydd Gwener 2il Gorffennaf cynhaliwyd y seremoni wobrwyo rithiol gyntaf erioed yn hanes Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig. Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn flwyddyn annhebyg i unrhyw un arall gydag ysgolion yn gweithio o bell gyda’i dysgwyr am ran helaeth o’r amser ac yn brwydro yn erbyn yr anawsterau anorfod a ddaeth yn sgil hynny. Bu’n her sylweddol i MYDG hefyd gan fod y corff hwn eisiau sicrhau, er gwaethaf y sefyllfa ddifrifol yn y wlad, bod y syched am addysg a’r awydd i ymgyrraedd at orwelion newydd ym myd dysg heb eu diffodd, ond y gellid eu hwyluso trwy’r gystadleuaeth flynyddol a drefnir ganddi. Felly, gyda llawer o waith caled a chefnogaeth noddwyr hael a ffyddlon, dyfeisiwyd fformat digidol newydd ar gyfer y gystadleuaeth.
Doedd dim sicrwydd faint o geisiadau y byddem yn eu derbyn mewn hinsawdd o’r fath, ond roedd MYDG wrth ei bodd i dderbyn dros 30 ymgais, Cymraeg a Saesneg, ar draws y sector addysg. Gwnaeth athrawon a disgyblion ymdrech anhygoel i gymryd rhan yn y gystadleuaeth gan sicrhau safon uchel y ceisiadau, gyda rhai ohonynt yn cyflwyno enghreifftiau eithriadol o sut y gall treftadaeth fod yn ganolog i bedwar pwrpas y Cwricwlwm newydd i Gymru. Roedd y prosiectau a gyflwynwyd yn rhychwantu ystod eang o bynciau - aml-ddiwylliant, yr iaith Gymraeg, trefi/dinasoedd unigol yng Nghymru, Rhyfeloedd Byd, Chwaraeon, Diwydiant, Cymry enwog, adeiladau ac eglwysi lleol a hanes menywod yng Nghymru. Roedd brwdfrydedd ac ymwneud y disgyblion, a hwyluswyd gan ymroddiad ac egni’r athrawon, yn amlwg iawn yn ansawdd y gwaith a gyflwynwyd. Rhaid canmol pawb a gallant un ac oll fod yn falch o’u llwyddiannau.
Roedd un enillydd ym mhob sector addysgiadol yn derbyn tarian a gyflwynwyd gan Amgueddfa Cymru (National Museum of Wales) a £1000 yn rhodd gan Sefydliadau Hodge/Moondance. Yn y Cyfnod Sylfaen enillwyd y wobr gan Ysgol Penboyr, Sir Gaerfyrddin am ei hastudiaeth o Drefach Felindre, gan ganolbwyntio ar fusnesau yn y gorffennol a’r presennol. Rhannwyd y wobr ar gyfer y cyfnod Cynradd/Iau rhwng Ysgol Bryn y Mȏr, Abertawe ac Ysgol Casmael, Sir Benfro gyda’u prosiectau ‘Daw eto Haul ar Fryn’ yn cymharu amserau caled yr Ail Ryfel Byd â’r pandemig, a ‘Casmael yn Cofio’ yn edrych ar gyfraniad y pentref i’r Rhyfel Byd Cyntaf ac effaith y rhyfel ar y fro. Enillydd tarian yr adran Addysg Arbennig a Darpariaeth Amgen oedd Ysgol Heol Goffa, Sir Gaerfyrddin a’u pwnc oedd ‘Bwydydd Traddodiadol Cymru’ lle bu disgyblion yn ymchwilio, yn gwneud ac yn blasu bwydydd gwahanol gydag afiaith - Masterchef y dyfodol! Enillwyd tarian y sector Uwchradd gan Ysgol Bro Pedr, Ceredigion am y prosiect ‘I Mewn ac Allan o Gymru’ - prosiect uchelgeisiol a chyfoethog yn delio ag ymfudo ac allfudo.
At hyn dathlodd y Fenter enillydd cystadleuaeth holl-bwysig EUSTORY. MYDG yw unig aelod y DG gydag Eustory - rhwydwaith anffurfiol o sefydliadau anllywodraethol - sy’n cynnal cystadleuaeth hanes seiliedig ar ymchwil ar gyfer pobl ifainc mewn 28 gwlad ar draws Ewrop. Eleni mae’r gystadleuaeth wedi mabwysiadu fformat gwahanol - gwahoddir myfyrwyr Blynyddoedd 12 ac 13 i gyflwyno prosiect unigol yn gysylltiedig â Threftadaeth Cymru yn seiliedig ar ymchwil, dadansoddi a gwerthuso. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol a chyfle i ymgeisio am gael cymryd rhan yn rhaglen weithgareddau flynyddol EUSTORY, a fydd eleni ar fformat digidol. Enillydd 2021 MYDG yw Molly Cook o Ysgol Gyfun Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr yr arweiniodd ei hymchwil i hanes adeilad hanesyddol segur, gyda grŵp o’i chyfoedion, at gyhoeddi dadansoddiad a gwerthusiad tra nodedig yn ‘The Historian’. Enillodd Molly Wobr Hanesydd Ifanc Hanes Lleol y Gymdeithas Hanesyddol am y gwaith hwn hefyd.
Dymuna Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y gystadleuaeth eleni - yn noddwyr, swyddogion, beirniaid ac yn arbennig felly'r disgyblion a’r athrawon am gymryd rhan mewn cyfnod mor anodd. Hefyd, diolch o galon i Michael Sheen am ein cefnogi yn y seremoni.
Gobeithio y bydd Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol fel y gall ein pobl ifainc ddarganfod a dysgu am eu treftadaeth, a’r modd y mae’n cyfoethogi ein bywydau. Mae Prif Weinidog Cymru y Gwir Anrh. Mark Drakeford, yn cefnogi gwaith y Fenter –
‘Mae’n cyfrannu at yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd gan ein pobl ifainc o’u hanes a’u treftadaeth ac yn eu hannog i ymchwilio a dysgu mwy o’r gorffennol’
Hoffai MYDG annog rhagor o ysgolion i gystadlu yn 2022 a gwahoddwn hwy i edrych ar ein gwefan: www.whsi.org.uk i gael y manylion.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Jeanne Evans: CLICIWCH YMA
ENILLWYR GWOBRAU 2021
Y Cyfnod Sylfaen
PENBOYR SCHOOL
Ysgolion Cynradd ac Iau
YSGOL BRYN Y MOR
• YSGOL CASMAEL
Y Categori Arbennig
YSGOL HEOL GOFFA
Ysgolion Uwchradd
YSGOL BRO PEDR
EUSTORY
MOLLY COOK,
YSGOL GYFUN
BRYNTIRION