THE HISTORY OF WHSI
Amdanom Ni
Alun Morgan
Angharad Williams
Huw Griffiths
Carolyn Hitt
Chris Williams
Catrin Stevens
​Lansiwyd y Fenter yn 1990 dan nawdd y Sefydliad Materion Cymreig yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd. Gweledigaeth y Fonesig Trotman Dickenson, a ddaeth yn Gadeirydd cyntaf y fenter ydoedd, ac mae hi wedi parhau i ddiddori’n fawr ynddi ers hynny. Fe’i dilynwyd yn Gadeirydd gan yr hanesydd adnabyddus, Yr Athro Chris Williams a chan y newyddiadurwraig law rydd, Carolyn Hitt, yr hanesydd a’r awdur, Catrin Stevens ac Alun Morgan, AEM (Estyn) wedi ymddeol. Angharad Williams, Cyn-reolwr Rheolwr Ymgysylltu â’r Cyhoedd CBHC a chyn brifathrawes a ddilynodd. A'r Cadeirydd newydd yw Huw Griffiths Uwch-Ddarlithydd y Drindod Dewi Sant.
Y Fonesig Trotman-Dickenson
Ein Hanes
Y nod yw annog pobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru i ymddiddori mwy yn eu treftadaeth ac yng nghyfraniad eu teuluoedd a'u cymunedau i'r dreftadaeth honno. Mae'r Fenter yn cynnal cystadleuaeth flynyddol ar gyfer projectau treftadaeth yn ysgolion Cymru.
Un o gystadlaethau hanes i ysgolion mwyaf yn Ewrop
Gyda agos i 10,000 o ddisgyblion yn cystadlu yn flynyddol. A niferoedd yn cynyddu bob blwyddyn.
​
Ryfym yn ymfalchio i fod yn un o gystadlaethau hanes mwyaf Ewrop.
Ni fyddai’r gystadleuaeth wedi bodoli a pharhau heb gefnogaeth y noddwyr. Yn ystod y 30 mlynedd bu Sefydliad Hodge yn un o’n noddwyr pennaf ac yn y blynyddoedd diweddar cafwyd cefnogaeth sylweddol gan Admiral Group plc. (Moondance Foundation).
Cafwyd cefnogaeth oddi wrth ystod o noddwyr eraill – Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, CADW, Casgliad y Werin Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Media Wales, Undeb Rygbi Cymru, Prifysgol De Cymru, Archif Menywod Cymru, Into Film, Mewn Cymeriad a nifer o gymdeithasau hanes sirol a lleol ac unigolion hael.
Mae MYDG yn aelod o EUSTORY, rhwydwaith o wledydd yn Ewrop sy’n trefnu cystadlaethau hanes / treftadaeth. Gwahoddir cynrychiolwyr sy’n ennill gwobr EUSTORY MYDG i fynychu cynhadledd gyda chystadleuwyr eraill EUSTORY, a noddir gan Sefydliad Körber o’r Almaen.
DYMA’R TÎM...
Llywydd Anrhydeddus am Oes: David Maddox OBE
​
​​​
Rydym yn ffodus iawn cael tîm mawr o wirfoddolwyr sy’n cadw’r gystadleuaeth i fynd am dros 30 mlynedd.
​Fodd bynnag, mae tîm bach o swyddogion sy’n cwrdd yn rheolaidd i weinyddu’r fenter o ddydd-i-ddydd:
​
Cadeirydd ac Ymddiriedolwr: Dr. Huw Griffiths - Uwch-ddarlithydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
​
​Is-gadeirydd & Swyddog Cyswllt Ysgolion: Aled Rumble – Athro Ymgynghorol & cyn bennaeth adran Hanes
​
​Trysorydd & Ymddiriedolwr: Dr. Stuart Broomfield - Cyn-ymgynghorydd Addysg
​
Ysgrifenyddes & Ymddiriedolwr: Alison Denton Cyn-bennaeth hanes ac Arholwr cyfredol CBAC ar gyfer Hanes a Gwleidyddiaeth