top of page

CRYNODEBAU O RAI CEISIADAU BUDDUGOL

Mae'r canlynol yn grynodebau o geisiadau buddugol. Efallai y byddwch yn eu gweld yn ddefnyddiol ar gyfer paratoi eich cais eich hun.

Y Cyfnod Sylfaen

YSGOL GYNRADD GYMRAEG LLANNON - Sir Gaerfyrddin

Teitl: Gwelaf i

Canolbwyntiodd y prosiect hwn ar yr hyn sydd i’w weld yn y pentref. Gallai’r plant hyˆn siarad yn frwdfrydig am yr eglwys, y dafarn, y ffynnon a’r tollborth y tu allan i’r pentref a chofio dyddiadau a nodweddion yr adeiladau’n dda. Roedd ganddynt ddealltwriaeth dda o arwyddocâd ffotograffau a dogfennau a ddarparwyd gan Sefydliad y Merched a’r ficer. Roedd eu gwaith celf, eu mapio, eu barddoni a’u trafodaeth hyderus am yr hyn a welsent yn dangos dealltwriaeth dda o linell amser y digwyddiadau a’r newidiadau mewn agweddau ieithyddol. Cyfoethogwyd y gwaith gan gymariaethau â chwaer ysgol yng Ngogledd Affrica. Defnyddiwyd TG yn effeithiol ac ychwangeodd hyn at bob agwedd ar y prosiect hwn.

Y Cyfnod Sylfaen

YSGOL GYNRADD SANDFIELDS - Castell-nedd Port Talbot

Teitl: Ein Tref Ddur

Ffocysodd y prosiect hwn ar hanes a materion gwleidyddol yn ymwneud â Gweithfeydd Dur Port Talbot. Roedd llawer o rieni, teidiau a hen deidiau’r disgyblion yn neu wedi bod yn gweithio yno.

Bu disgyblion yn cyfweld gweithwyr dur ac yn ymchwilio ffotograffau archifol i gymharu newidiadau a pharhad dros amser. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y rôl bwysig a chwaraeodd y gweithfeydd yn natblygiad y gymdogaeth gyfan. Pan ddaeth y newyddion y gallai’r gwaith gau gan golli 750 o swyddi, newidiodd cyfeiriad y prosiect yn gyflym. Gwyliodd y plant adroddiadau newyddion, creon nhw brotest i’w rhannu ar Trydar, ysgrifennon nhw lythyron ac anfonon nhw ddeiseb at y Prif Weinidog.

Creodd y plant wasanaeth dosbarth i gyflwyno’r hyn a ddysgwyd. Defnyddion nhw dechnoleg I-pad (Sgrin Werdd), creon nhw fideos yn defnyddio hen luniau, dysgon nhw sut y caiff dur ei wneud, creon nhw adroddiad newyddion i BBC Wales ac S4C a defnyddion nhw appiau I-pad amrywiol i gyflwyno’r hyn roedden nhw’n ei wybod ac wedi ei ddysgu.

Ysgolion Cynradd ac Iau

YSGOL GYNRADD GLYNHAFOD - Rhondda Cynon Taf

Teitl: History of Mining in Cwmaman / Hanes Glofaol Cwmaman

Roedd y prosiect ysgol gyfan hynod ddiddorol hwn yn edrych ar y diwydiant glo yng Nghwmaman. Astudiodd pob grwˆp blwyddyn agweddau gwahanol ar y diwydiant a’i effaith ar y pentref. Rhannodd disgyblion yn cynrychioli pob grwˆp blwyddyn eu darganfyddiadau gyda’r beirniaid. Defnyddiwyd TG yn effeithiol iawn gan y disgyblion hyˆn i gyfleu’r wybodaeth a ddarganfuwyd am y diwydiant: crëwyd dwy ffilm ddogfen fer ac animeiddiadau, roedd un ohonynt yn dangos y disgyblion yn ymweld â safleoedd cysylltiedig â’r diwydiant glofaol yn eu cwm. At hyn, roedd y disgyblion wedi creu modelau o ddramiau glo ac offer pen pwll, yn ogystal â thalcen glo. Yng ngardd yr ysgol, roedd aelodau’r Clwb Garddio wrthi’n creu cynrychioliad gweledol o olwyn pen pwll a phicasau, gan ddefnyddio planhigion bocs. Caiff arddangosfa o waith y disgyblion ei rhannu â’r gymdogaeth mewn noson agored.

Ysgolion Cynradd ac Iau

YSGOL GYMUNEDOL CROESGOCH - Sir Benfro

Teitl: Her Hybu Hanes Croesgoch – Harvesting the History

Roedd y prosiect hanes lleol hwn yn ymdrin ag ystod eang o agweddau ar gefn gwlad gogledd Penfro. Dewisodd y disgyblion eu hunain y lleoliadau neu’r themâu a oedd o ddiddordeb i’w hastudio a defnyddion nhw eu sgiliau ymchwilio hanesyddol i gasglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Cafodd y grwˆp blwyddyn gyfan fudd ar y cychwyn o gyngor a chefnogaeth y gymdeithas hanes leol i gynllunio a threfnu eu hymchwil. Edrychon nhw ar ffermydd, melinau gwynt a dwˆr, gweithfeydd briciau a man claddu canoloesol. Defnyddion nhw wybodaeth gan rieni, teidiau a neiniau ac oedolion hyˆn eraill yn y gymuned, yn ogystal ag ymweld â’r llyfrgell leol ac archifdy’r sir. Casglwyd ynghyd gynnyrch eu hymchwil, a oedd yn cynnwys testunau cyfrifiadurol yn ogystal â rhai mewn llawysgrifen, ffotograffau, mapiau a CDau, yn ofalus a chawsant eu cyflwyno mewn llyfrynnau mawrion.

Ysgolion Uwchradd

YSGOL Y PRESELI - Sir Benfro

Teitl: Y Ddraig a’r Eryr

Ymchwiliodd aelodau clwb hanes yr ysgol hanes y Cymry a ymfudodd i’r Unol Daleithiau, ac yn enwedig i Pennsylvania, a’u rôl yn ffurfio’r dalaith honno a’r wlad. Roedd eu hymholiad wedi’i gynllunio’n ofalus. Ymysg unigolion blaenllaw o Gymru darganfuwyd naw arlywydd a Robert M. Jones a sefydlodd ddiwydiant llechi llewyrchus. At hyn buon nhw’n ymchwilio hanes tywyllach, e.e. cyswllt Cymry-America â’r Ku Klux Klan. Astudiwyd y berthynas rhwng y ddwy wlad heddiw ac roedd rhai disgyblion wedi cysylltu â Stephen Crabbe i ddarganfod beth oedd argraff Arlywydd cyfredol UDA o Gymru yn dilyn ei ymweliad yma ar gyfer uwchgyfarfod NATO yn 2015.

Roedd y disgyblion wedi datblygu cysylltiadau cryf â Ninnau, Papur Newydd Cymreig Gogledd America a oedd wedi cyhoeddi erthyglau ganddynt. Maent wedi rhannu darganfyddiadau eu hymchwil trwy baratoi arddangosfa gynhwysfawr, sy’n cynnwys copïau o ffynonellau gwreiddiol a’u dehongliadau eu hunain.

Ysgolion Uwchradd

YSGOL BRYN ALYN - Wrecsam

Teitl: Gardd Goffa

Mynychodd y disgyblion ddiwrnod o weithdai addysgol yn Amgueddfa Wrecsam i archwilio hanes lleol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan astudio celf a barddoniaeth Gymreig o’r cyfnod hwn. Yna treulion nhw ddiwrnod yn Galeri Oriel Wrecsam yn gweithio gydag artist lleol, Sara Jane Harper, gan gynllunio pabïau a phowlenni cerameg.

Gwahoddodd y disgyblion gynghorwyr lleol, ynghyd â David Griffiths, Llysgennad y Lluoedd Arfog, a hefyd gynrychiolydd o bapur newydd y Wrexham Leader, i’r ysgol i agoriad yr Ardd Goffa. Dangosodd David ddiddordeb arbennig yn y prosiect a llwyddodd ef i helpu’r disgyblion i gysylltu’r Rhyfel Byd Cyntaf â gwrthdaro modern heddiw a swyddogaeth y lluoedd arfog. Mae’r prosiect wedi cynhyrchu cyswllt parhaol â’r gorffennol trwy fainc goffa, arddangosfa fur cerameg a phabïau y gall yr ysgol a’r gymuned eu mwynhau.

Y Categori Arbennig

YSGOL ARBENNIG PORTFIELD - Sir Benfro

Teitl: Cynnyrch Sir Benfro

Dewisodd pob dosbarth yn Ysgol Portfield gynnyrch lleol gwahanol i’w ymchwilio. Dyfeisiodd y disgyblion gwestiynau i holi sut y caiff yr eitemau hyn eu cynhyrchu heddiw a sut y caent eu cynhyrchu hanner can mlynedd yn ôl. Dewiswyd ystod eang o gynnyrch gan gynnwys llaeth, selsig, llysiau, perlysiau, hufen ia, cacennau, caws, mêl a bara. Trwy ymweld â chynhyrchwyr lleol cafodd y disgyblion gyfle i weld a gwneud y cynhyrchion hyn. Defnyddiwyd y sgiliau hyn wedyn yn yr ysgol i wneud eitemau i’w gwerthu mewn marchnad arbennig yn Portfield. Addurnwyd y stondinau marchnad ag arddangosfeydd o safon uchel i adlewyrchu’r newidiadau a welwyd dros amser. Roedd y disgyblion yn gallu gwella eu sgiliau rhifedd trwy ddefnyddio arian i brynu eitemau.

Siaradodd disgyblion ym mhob dosbarth yn wybodus a brwdfrydig am eu darganfyddiadau ac roeddent yn gallu ateb cwestiynau yn fanwl. Ategwyd at eu gwaith gan nifer o gyflwyniadau amlgyfrwng effeithiol iawn.

Y Categori Arbennig

YSGOL HEOL GOFFA - Sir Gaerfyrddin

Title: Llanelli a’r rhyfeddodau o’i chwmpas

Ymchwiliodd y prosiect ysgol gyfan hwn wyth elfen wahanol o hanes amrywiol Llanelli. Edrychodd disgyblion ar warchodfa natur leol Penclacwydd, crochenwaith Llanelli, eu hamgueddfa leol, marchnad y dref, cyn faes rygbi Llanelli, cadwyn o bobyddion lleol, Tyˆ Stepney a datblygiad yn seiliedig ar safle hen felin ddur. Darparodd gweithgareddau oedd wedi eu cynllunio’n dda gyfoeth o gyfleoedd diddorol i’r disgyblion ddatblygu eu sgiliau hanesyddol ac archwilio’u treftadaeth leol.

Siaradodd y disgyblion yn hyderus a brwdfrydig am eu gwaith a gallent drafod eu hastudiaethau mewn dull ystyrlon. Hyrwyddwyd cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn effeithiol iawn.

Cyflwynwyd eu gwaith trwy ystod o gyfryngau gyda chyflwyniadau Pwerbwynt a oedd wedi’u ffocysu ac yn eglur. Defnyddiodd disgyblion ffotograffau mewn ffyrdd effeithiol a chrëwyd ystod o waith celf, gan gynnwys murluniau, paentiadau a modelau clai.

bottom of page